Natalie

Mae Natalie yn hwyluso nifer o gyrsiau hyfforddi Plant yng Nghymru, wedi’u hysbysebu, eu comisiynu a’u contractio ac mae ganddi brofiad ymarferydd o hyfforddiant ar ddiogelu a hawliau plant yn y sectorau statudol a gwirfoddol. Mae Natalie wedi gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys addysg, elusennau, a gwasanaethau plant. Mae Natalie yn athrawes gymwysedig ac mae ganddi arbenigedd arbennig mewn hwyluso grŵp a gweithio gyda gwirfoddolwyr.