Deborah Jones

Mae Deborah yn Brif Swyddog Gweithredol Lleisiau o Ofal Cymru (VFCC) ac mae ganddi brofiad helaeth fel ymddiriedolwr yn y trydydd sector. Yn ogystal â Plant yng Nghymru, mae Deborah hefyd yn un o ymddiriedolwyr 5 gwlad 1 llais (cadeirydd) ac yn cyflawni rôl Ysgrifenyddiaeth i Grŵp Hollbleidiol Llywodraeth Cymru ar Blant a Phobl Ifanc. Bu Deborah yn astudio ar gyfer MBA a Diploma mewn Cwnsela ac mae ganddi hanes hir o weithio gyda’r gymuned sydd â phrofiad o ofal. Deborah oedd cynrychiolydd cyfreithiol VFCC yn “Ymchwiliad Gogledd Cymru” a bu’n arwain y gwaith o bwyso am newid go iawn o ran arddel hawliau’r gymuned ofal yng Nghymru, yn unol â CCUHP.