![Period Poverty.png Period Poverty.png](/application/files/6416/2038/4087/Period_Poverty.png)
![Adnodd newydd wedi’i gynhyrchu: Llesiant yn ystod Coronafeirws](/application/files/3716/1972/0125/Child_Protection.png)
Mae adnodd newydd wedi cael ei gynhyrchu i helpu i reoli llesiant yn ystod ymlediad Covid 19. Cynhyrchwyd yr adnodd fel rhan o’r prosiect Paratoi, ac mae wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal neu unrhyw berson ifanc sy’n chwilio am gyngor neu gefnogaeth yn ystod y sefyllfa hon. Mae’n cynnwys cyngor ar sut i ofalu am eich llesiant yn ystod coronafeirws, sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ofalgar, gwefannau defnyddiol ar gyfer y cyfnod yma, ac awgrymiadau am sut i ymlacio a gofalu amdanoch eich hun yn ystod y cyfnod cythryblus yma.