23 Gorffennaf i 5 Medi
Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant eisiau cyrraedd cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl a chefnogaeth i gael hwyl a meithrin eu lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros Wyliau’r Haf. Er mwyn cysylltu â chymaint o bobl â phosibl, rydym yn cefnogi nifer fawr o sefydliadau i ddarparu ystod eang o weithgareddau ym mhob rhan o’r ddinas.
Edrychwch ar y map isod i weld pa sefydliadau sy’n cymryd rhan yn eich ardal chi! Isod mae rhestr lawn o gyfleoedd a manylion ar sut i gymryd rhan.
Triathlon Pobl Ifanc (6-14)
Dydd Mercher 31 Awst 2022
Chwaraeon Caerdydd, Pwll Rhyngwladol Caerdydd.
Sesiwn nofio fer ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd wedyn taith beicio fer o gwmpas y pentref chwaraeon wedyn sesiwn rhedeg fer ar hyd Llwybr Bae Caerdydd. Dewch â beic ond os nad oes un gennych, rhoddir un i chi. Mae helmedau’n orfodol yn y digwyddiad hwn. Dewch ag unrhyw luniaeth y gallai fod ei hangen arnoch ar ôl y gweithgaredd.
Abseilio i lawr Canolfan Mileniwm Cymru (12+)
Sadwrn 3 Medi a dydd Sul 4 Medi o 11am i 5pm.
Fel rhan o ŵyl “Haf o Hwyl” Cyngor Caerdydd, rydyn ni’n estyn gwahoddiad i blant a phobl ifanc 12+ oed i ddod draw i Ganolfan Mileniwm Cymru i abseilio waliau ein hadeilad eiconig ym Mae Caerdydd.
Bydd modd naill ai archebu slot amser ymlaen llaw neu droi lan ar y diwrnod – cyhyd â bod slotiau amser ar gael.
Rhaid i unrhywun dan 18 ddarparu llofnod o ganiatâd gan riant/warcheidwad neu athro/weithiwr cefnogi.
Theatr Ieunctid @ Canolfan Mileniwm Cymru – Cyfle creadigol am ddim
22 – 25 Awst 2022.
Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon am ddim, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.
Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.
Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.