07/07/22

Gŵyl Cymru Ifanc

Gŵyl Cymru Ifanc

Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022
Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd

Tachwedd 2022. Byddwn ni’n treulio’r diwrnod yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan, o 9.30am tan 3pm, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd chwyddo lleisiau plant a phobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae tîm Cymru Ifanc wedi bod wrthi’n ofalus yn trefnu diwrnod yn llawn gweithdai cyffrous a rhyngweithiol, trafodaethau ac adloniant byw, yn arbennig i bobl ifanc Cymru eu mwynhau ac ymwneud â nhw.

Yn yr Atriwm, byddwn ni’n lansio ein harddangosfa Hawliau Plant, fydd yn canolbwyntio ar y thema ‘Beth mae Hawliau Plant yng Nghymru yn ei Olygu i Chi?’ Mae tîm o wirfoddolwyr Cymru Ifanc wedi casglu a chrynhoi darnau o waith gan bobl ifanc 11-25 oed, gan greu arddangosfa wych yr ydyn ni’n methu aros i’w rhannu gyda chi i gyd.  

Bydd ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc hefyd yn hwyluso trafodaeth Bord Gron. Gyda chwestiynau a ddatblygwyd gan aelodau o’n Grwpiau Diddordeb Arbennig ein hunain, sy’n rhan o Cymru Ifanc, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i glywed gan Gomisiynydd Plant newydd Cymru a nifer o’r bobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru ynghylch materion amlwg i bobl ifanc Cymru heddiw.

Byddwn ni’n croesawu llu o stondinau arddangos gan sefydliadau partner, aelodau o Plant yng Nghymru a sefydliadau amlwg eraill yng Nghymru, gyda ffocws ar faterion allweddol fel llesiant plant, cydraddoldeb ac urddas mislif, yn ogystal â cherddoriaeth fyw, adloniant a gwesteion arbennig ar hyd y dydd.

Mae mwy fyth o sefydliadau a gweithgareddau gwych i gael eu cyhoeddi wrth i ni nesáu at y digwyddiad, ac rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n ymuno â ni ar gyfer ein dathliadau.  

Children in Wales Email Footer festival.jpg

Newyddion sy’n gysylltiedig

Lonliness.png

NSPCC yn lansio ymgyrch newydd i'r nifer cynnyddol…

Child Protection.png

Plant mewn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu ‘pryn…

Finance.png

Adnoddau newydd: mae Plant yng Nghymru yn rhyddhau…

Children in Wales have launched a new suite of resources in conjunction with Isle of Anglesey Council as part of the Getting Ready Project.

Finance.png

Adnoddau newydd: mae Plant yng Nghymru yn rhyddhau…

Children in Wales have launched a new suite of resources in conjunction with Carmarthenshire County council as part of the Getting Ready Project.