01/12/22

Eich meddyliau am Hawliau Plant yng Nghymru

Yn dilyn Gŵyl Cymru Ifanc lwyddiannus iawn, a gynhaliwyd yn Sain Ffagan ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022, rydym bellach yn lansio arolwg ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru i'w cwblhau a fydd yn rhoi cyfle iddynt roi eu barn ar bethau sy'n bwysig iddyn nhw. 

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r arolwg hwn, bydd gwirfoddolwyr ifanc Cymru Ifanc yn gweithio i gyd-gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig (CU). Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn a bydd yn dangos i'r CU sut olwg sydd ar Hawliau Plant yng Nghymru, fel bod modd cymryd argymhellion ar gyfer sut i'w gwella. 

Anfonwch yr arolwg hwn ymlaen at unrhyw bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw, neu mewn cysylltiad â nhw, er mwyn i ni sicrhau bod cymaint o leisiau'n bosib yn cael eu cynrychioli.  

Gallwch weld yr arolwg isod a'r dyddiad cau yw dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022.

Cliciwch Yma

Newyddion sy’n gysylltiedig