Jenny Williams

Ers 2014 mae Jenny wedi bod yn Gyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar ôl gweithio’n flaenorol fel Pennaeth Gwasanaethau Plant ac yna’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dechreuodd Jenny, sy’n Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig, ei gyrfa mewn amrywiaeth o swyddi, gan arbenigo yn bennaf mewn Mabwysiadu a Phlant sy’n Derbyn Gofal. Ar lefel genedlaethol, mae Jenny wedi cadeirio Grŵp Polisi Diogelu cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC), wedi bod yn aelod o Grŵp Cydlynu Strategol Ymgyrch Pallial, hi oedd Llywydd Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19 a hi yw cadeirydd presennol Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru.