Kyle Jamie Eldridge

Fy enw i yw Kyle Jamie Eldridge ac ar hyn o bryd rwy’n byw yn Y Fenni, Sir Fynwy. Rydw i’n 27 oed ac mae gen i Anhwylder Sbectrwm Awtistig ers 13 o flynyddoedd hyd yma. Rydw i’n angerddol am ddod â’m profiad o arwain ac eiriol i Fwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru. Mae gen i gefndir cryf mewn llywodraethiant, yn arbennig ym meysydd addysg a hawliau anabledd, felly rydw i mewn sefyllfa dda i fedru cael effaith ystyrlon ar drosolwg y bwrdd a’i gyfeiriad strategol. Mae gen i hanes profedig o arwain mentrau sy’n ceisio gwella gwasanaethau i gymunedau niwroamrywiol. Amlygir hynny gan fy rôl lwyddiannus yn Gadeirydd Grŵp Llywio Awtistiaeth Gwent, lle bues i’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau eraill, i wella’r gwasanaethau sydd ar gael i unigolion awtistig yn Rhanbarth Gwent. Mae fy mhrofiad blaenorol o lywodraethiant, gan gynnwys gwasanaethu fel Myfyriwr-Lywodraethwr ac Ymddiriedolwr ym Mhrifysgol De Cymru ac Undeb y Myfyrwyr yno, wedi rhoi cyfle i mi gyfrannu at benderfyniadau strategol a hybu hygyrchedd i gymunedau ar y cyrion. Rwy’n credu’n bendant mewn arweinyddiaeth gynhwysol, ac rwy’n ymdrechu i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a’i ystyried mewn penderfyniadau polisi a chyflwyno gwasanaeth.