Yasmin Husain

Cyfreithiwr addysg ac addysgwr wyf fi, ac mae gen i gefndir mewn cyfraith hawliau dynol, ond fe ges i egwyl o’m gyrfa i fagu fy nhri phlentyn. Yn ystod y cyfnod yna fe ddes i’n oruchwyliwr clinigau cyngor cyfreithiol yn y gymuned. Bues i hefyd yn astudio’n rhan amser i gael diploma mewn addysg blynyddoedd cynnar Montessori, oedd yn cynnwys peth gwaith mewn ysgolion gyda phlant oedd ag AAA. Pan gychwynnodd fy mhlant yn yr ysgol yn llawn amser, fe ddychwelais i at ymarfer y gyfraith flwyddyn yn ôl, ac rydw i wedi bod yn cael hyfforddiant ym maes cyfraith addysg. Rwy’n credu’n angerddol mewn hawliau plant, addysg a arweinir gan blant, cydraddoldeb ac amrywiaeth, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cynrychioli’n deg, heb brofi gwahaniaethu yn eu herbyn. Rydw i’n llysgennad dros y Tîm Cefnogi Ieuenctid o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd ar eu prosiect gwaharddiadau o’r ysgol.