Sean O’Neill, Dirprwy Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi
sean.oneill@childreninwales.org.uk
Mae eiriolaeth yn ymwneud â siarad ar ran plant a phobl ifanc, gwneud yn siŵr bod eu hawliau’n cael eu parchu a bod eu barn yn cael ei chlywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae eiriolaeth hefyd yn ymwneud â chefnogi plant a phobl ifanc i siarad drostynt eu hunain, ar sail y fframwaith rhyngwladol a ddarperir gan CCUHP.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio i hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ers cyhoeddi Adroddiad Waterhouse, Ar Goll Mewn Gofal, yn 2000. Roedd yr adroddiad yn argymell sefydlu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol a sefydlu’r Comisiynydd Plant dros Gymru. Roedd Plant yng Nghymru yn rhan o hyn, ynghyd â’r consortiwm a sefydlodd Linell Gymorth MEIC yn 2010.
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i helpu i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar waith sy’n helpu i amddiffyn plant rhag cam-drin a niwed, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed.
Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Blant yng Nghymru