Tlodi Plant

Mae Plant yng Nghymru yn parhau i weithio i atal a lleihau lefelau tlodi plant, a lliniaru’r effaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd

Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd.

Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) Cymru

Clymblaid o sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi plant yng Nghymru, wedi’i chydgysylltu a’i rheoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru.

Cymorth Ariannol

Mae cyngor a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i unrhyw un a allai fod yn cael anawsterau gyda chyllid a dyled ar gael yma.

Gwisg Ysgol

Ein nod yw helpu ysgolion i adolygu eu polisïau a'u harferion gwisg ysgol presennol. Drwy fynd i’r afael â phryderon ynghylch fforddiadwyedd a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae’r polisïau hyn yn ei chael ar fyfyrwyr a’u teuluoedd, gallwn hwyluso newidiadau ystyrlon.

Adnoddau Pris Tlodi Disgyblion

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim canlynol yn cynnig camau ymarferol ac atebion ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan i helpu i ddileu rhwystrau a 'chost' dysgu yn eich ysgol neu leoliad.

 

Pris Tlodi Disgyblion

Prosiect Pris Tlodi Disgyblion/Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi ar Rhaglen Addysg - 2019-2024.