Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi
anna.westall@childreninwales.org.uk
Fatiha Ali, Swyddog Datblygu
Mae magu plant yn weithgaredd a wneir gan y rhai sy'n magu plant. Mae hyn yn cynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol, llys-rieni, a neiniau a theidiau. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu fel rhieni corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu gofal.
Mae Plant yng Nghymru wedi gweld cefnogi rhieni a theuluoedd fel rhan allweddol o’n gwaith ers blynyddoedd lawer. Mae cysylltiad agos rhwng plant ifanc ac uned deuluol, felly mae CCUHP yn cydnabod ac yn cefnogi rhieni a theuluoedd yn gryf a’u rôl a’u cyfrifoldebau hanfodol ar gyfer amddiffyn a gofalu am blant a’u helpu i gaffael gwerthoedd a safonau (Erthyglau 5 a 18).
Cytunir yn eang ei bod yn bwysig i deuluoedd gael eu cefnogi mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hanghenion er mwyn adeiladu a chreu gwytnwch a hunanddibyniaeth. Trwy arfogi teuluoedd â’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl ac adeiladu ar gryfderau rhieni gallwn eu helpu i greu amgylcheddau cefnogol a chyfoethog ar gyfer eu plant. Bydd hyn yn rhoi pob cyfle iddynt gyrraedd eu potensial yn unol â saith nod craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyswllt Rhieni Cymru - ‘Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr i hyrwyddo hawliau plant’.
Mae’r prosiect yn darparu ffordd glir o gael barn rhieni/gofalwyr ar feysydd polisi sy’n effeithio ar eu plant a’u pobl ifanc.
Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i gefnogi ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd/rhianta o ansawdd gwell
Ymunwch â'n Fforwm ar gyfer gweithwyr proffesiynol ledled Cymru sy'n gweithio gyda rhieni i hyrwyddo llais a chyfranogiad rhieni.
Mae'r gweminar hwn yn ymdrin â thrawma; trallod rhieni ac yn cyflwyno syniadau am sut y gallwn ddarparu dulliau cydgysylltiedig ar gyfer y teulu cyfan er mwyn cefnogi teuluoedd drwy’r pandemig hwn a thorri’r cylchoedd trallod a thrawma rhwng cenedlaethau.
Yn y gweminar hwn, clywodd cynrychiolwyr gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o'r trydydd sector, y sector iechyd a'r sector statudol ynghylch sut mae anghenion rhieni a theuluoedd yn cael eu cefnogi yn y byd modern hwn.