Anna Westall - Uwch Swyddog Polisi
anna.westall@childreninwales.org.uk
Mae’r aelodau’n cynnwys unigolion sy’n arwain cymorth rhianta yn eu hawdurdod lleol a/neu sydd â rôl strategol neu gydgysylltu. Yn y pen draw, Cadeirydd y Rhwydwaith sy'n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch aelodaeth o'r grŵp.
Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i gefnogi ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd/rhianta o ansawdd gwell drwy:
Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2009 fel ymateb i geisiadau gan unigolion sy’n cyflawni rôl unigol fel cydlynydd rhianta â chyfrifoldeb strategol. Roedd yr unigolion hyn eisiau dod at ei gilydd i ddatblygu trwy ddarparu dysgu ar y cyd, adnoddau, cefnogaeth a gwybodaeth ar y cyd. Roedd yna awydd i gyfnewid a dysgu oddi wrth ein gilydd trwy ddull datrys problemau sy'n canolbwyntio ar atebion.
Bu Rhwydwaith Cenedlaethol yr Arweinwyr Strategol ar Fagu Plant a Chymorth i Deuluoedd yn rhannu eu barn ar gyflwr y Sector Magu Plant a Chymorth i Deuluoedd yng Nghymru. Dyma'r ail adroddiad i gael ei ryddhau, ac nid yw’r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru wedi newid llawer ers 2023 – yn wir mae llawer o faterion wedi dwysáu.