Merthyr Tudfil

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Merthyr Tudful (GGD)

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ddarparu gwybodaeth am ystod o wasanaethau yn eich ardal.

Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch plant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.

P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal, neu’n syml eisiau ychydig o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.

 

Rhianta 

Cymorth rhianta mwy penodol.

 

Hyb Cymorth Cynnar Merthyr

Ydych chi'n deulu yn ardal Merthyr Tudful ac mae gennych chi blant 0-18 oed?

Ydych chi'n gwybod ble i droi am help?

Ydych chi eisiau gwybod pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol?

Os felly, gall yr Hyb Cymorth Cynnar eich cefnogi chi a’ch teulu i gael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth, a chymorth ynghylch:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Hyb Cymorth Cynnar ar 01685 725000 neu EarlyHelp.Hub@merthyr.gov.uk.