Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ddarparu gwybodaeth am ystod o wasanaethau yn eich ardal.
Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i bob plentyn, teulu a gweithiwr proffesiynol am wybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â phlant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.
P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal neu os oes angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.
Mae Cefnogwyr Rhieni’n wirfoddolwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’w cymunedau lleol. Maent yn cyfeirio rhieni a gofalwyr at wasanaethau lleol ac yn rhannu eu profiadau personol o fod yn rhiant ac yn cael mynediad at gefnogaeth eu hunain.
Gwefan ymgynghori lleol a chyfleoedd i leisio barn.