Prosiect Paratoi

A'r gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n pontio o ofal i fyw’n annibynnol

Mae’r prosiect Paratoi yn cyd-fynd â chynllun cyfredol Llywodraeth Cymru, ‘Pan fydda i’n Barod’. Mae’n darparu ymyriad dwysach sy’n ceisio adleisio’r gefnogaeth a’r arweiniad mae pobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal yn eu cael yng nghyd-destun teulu. Cyflwynir y prosiect gan Lleisiau o Ofal Cymru ar y cyd â Plant yng Nghymru, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru o ‘Gronfa Arloesi Darpariaeth a Chefnogaeth Addas – Grant Atal Digartrefedd’.

Nodau’r prosiect yw:

  • Darparu cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch gohirio gadael gofal a lleihau risg digartrefedd ac ansefydlogrwydd tai)
  • Hwyluso cefnogaeth ddi-fwlch yn y gymuned, sy’n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, heb ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
  • Grymuso pobl ifanc trwy wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal
  • Meithrin gallu pobl ifanc i eiriol o blaid newid
  • Meithrin gwydnwch a mecanweithiau sy’n cadw pobl ifanc yn ddiogel rhag digartrefedd a risgiau cysylltiedig, gan wella’u llesiant cyffredinol
  • Cyfrannu at nod y gronfa, sef atal digartrefedd a chyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal
  • Cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r prosiect

Agwedd allweddol ar y prosiect oedd creu a darparu cyfres o adnoddau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal. Yn ogystal â darparu gweithdai cysylltiedig ar gyfer pobl ifanc, defnyddiwyd yr adnoddau hyn gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i roi cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal. Bydd hyn yn lleihau risg digartrefedd ac yn cyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.

 

Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:

  1. Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy
  2. Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion
  3. Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol

Adnoddau Pellach