Sean O’Neill, Dirprwy Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi
Plant sydd â phrofiad o ofal yw plant sydd naill ai’n derbyn gofal gan y wladwriaeth o dan ddeddfwriaeth genedlaethol Cymru, neu blant a fu’n derbyn gofal gan y wladwriaeth yn y gorffennol. Mae cyfraith Cymru yn diffinio’r plant hyn fel Plant sy’n Derbyn Gofal neu Ymadawyr Gofal. Mae nifer y plant sy’n destun achosion gofal wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r mwyafrif yn derbyn gofal oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod. Yn gyffredinol, mae eu deilliannau addysg a iechyd yn is na’u cyfoedion, ac mae llawer ohonyn nhw’n teimlo’n ynysig ac yn parhau i fod yn agored i niwed yn ystod eu cyfnod mewn gofal. Er gwaetha’r gwelliannau i’r system ofal, mae llawer o blant yn mynd ymlaen i gael profiadau gwael ar ôl gadael gofal, gan gynnwys problemau sy’n ymwneud â thlodi, tai a chyflogaeth.