Hawliau

Cysylltwch

Sean O’Neill, Dirprwy Prif Weithredwr/Cyfarwyddwr Polisi

sean.oneill@childreninwales.org.uk

Mae’r hawliau y mae gan bob plentyn a pherson ifanc, o dan 18 oed, hawl iddynt wedi’u nodi’n rhyngwladol yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Lluniwyd CCUHP ym 1989 i sicrhau bod hawliau cyffredinol plant yn cael eu cynnal ledled y byd.  Mae'n nodi'r hawliau sylfaenol hyn drwy 41 o erthyglau.

Mae hawliau plant wrth galon gwaith Plant yng Nghymru wrth inni ymdrechu i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Cydlynu Grŵp Monitro CCUHP Cymru fel y gynghrair hawliau plant genedlaethol yng Nghymru
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill yng Nghymru, gan gynnwys drwy ein cyfranogiad mewn gweithgorau strategol.
  • Gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i feithrin gallu ar draws y sector i gynyddu ymwybyddiaeth o CCUHP a’i weithrediad yn ymarferol 
  • Roedd ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau allweddol yn canolbwyntio ar hyrwyddo a gweithredu CCUHP yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop
  • Darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc ar hawliau plant, cyfranogiad a CCUHP
  • Cynhyrchu adnoddau ac adroddiadau

Prosiectau Cysylltiedig â Hawliau

Grŵp Monitro CCUHP Cymru