Grŵp Monitro CCUHP Cymru

Cysylltwch

Sean O'Neill, Dirprwy Prif Weithredwr/Cyfarwyddwr Polisi 

sean.oneill@childreninwales.org.uk

 

Mae aelodau’r Grŵp Monitro yn gynrychiolwyr, ac wedi’u henwebu gan, sefydliadau anllywodraethol ac academyddion sydd fel a ganlyn:

Bydd sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd Rhwydwaith lle mae cysylltiad clir â'r agenda.

Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn gynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd, sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Sefydlwyd Grŵp Monitro CCUHP yn 2002 ac ers mis Mai 2016 mae wedi’i hwyluso gan Plant yng Nghymru. Mae’r Grŵp wedi gweithio gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac wedi cyflwyno adroddiadau cymdeithas sifil i lywio Arholiadau Parti Gwladwriaeth y DU olynol.

Nodau Grŵp Monitro CCUHP yw:

  • Cydweithio i sicrhau bod monitro CCUHP yn cael ei gydlynu’n effeithiol yng Nghymru, gan gynnwys drwy gynhyrchu Adroddiadau Cysgodol Cymdeithas Sifil
  • Monitro gweithrediad CCUHP yng Nghymru
  • Hyrwyddo CCUHP, Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig ac argymhellion a wnaed gan y Grŵp Monitro yn adrodd i'r CU
  • Gweithio i sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer adrodd yn effeithiol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, plant, pobl ifanc a chyrff anllywodraethol yn gweithio gyda’i gilydd yn y broses hon
  • Hyrwyddo cyfranogiad plant mewn gweithgareddau monitro ac adrodd.
  • Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar weithrediad CCUHP
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc am CCUHP
  • Rhannu gwybodaeth a hyrwyddo rhwydweithiau yng Nghymru sy'n ymwneud â CCUHP.
  • Sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli mewn fforymau a digwyddiadau ledled Cymru a’r DU sy’n ymwneud â CCUHP