Sefydliadau Plant y Trydydd Sector

Cysylltwch

Sean O’Neill, Dirprwy Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi

sean.oneill@childreninwales.org.uk

Mae sefydliadau trydydd sector yn darparu ystod eang o gefnogaeth a gwasanaethau uniongyrchol i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru.  Plant yng Nghymru yw’r corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau plant yng Nghymru, ac felly mae’n cyflawni nifer o weithgareddau yn benodol i gefnogi sefydliadau yn y trydydd sector.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Cynrychioli’r trydydd sector trwy’r Rhwydwaith Plant a Theuluoedd ar Gyngor Partneriaeth Trydydd Sector (TSPC) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), sy’n cynnwys cyfrannu at gyfarfodydd thematig gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru
  • Cydlynu Grŵp Cenedlaethol Swyddogion Polisi Cyrff Anllywodraethol (NGO) a Grŵp Cenedlaethol Cyfarwyddwyr Plant Cyrff Anllywodraethol
  • Gweithio gyda’n haelod-sefydliadau i lywio ein harolygon, ein hadroddiadau a’n cyhoeddiadau
  • Nodi cyfleoedd i hyrwyddo materion allweddol ar gyfer sefydliadau plant y trydydd sector yng Nghymru
  • Darparu hyfforddiant a digwyddiadau fydd yn gwella dealltwriaeth a gwybodaeth am faterion polisi ac ymarfer allweddol sydd o ddiddordeb i sefydliadau plant y trydydd sector
  • Darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer ein haelodau trydydd sector