Grŵp Cyfarwyddwyr Plant Cenedlaethol Cyrff Anllywodraethol

Cyswlltwch

Hugh Russell, Prif Weithredwr

hugh.russell@childreninwales.org.uk

Mae hwn yn grŵp sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr sefydliadau gwirfoddol plant cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn gweithio’n agos gyda grŵp y Swyddogion Polisi uchod, gan ddarparu cyfeiriad strategol er mwyn llywio meysydd blaenoriaeth.

Aelodaeth y Grŵp

  • Gweithredu dros Blant Action for Children
  • Barnardo’s Cymru
  • Plant yng Nghymru
  • NSPCC Cymru
  • Achub y Plant
  • TGP Cymru

Bydd swyddogaethau’r Grŵp yn cynnwys:

  • i nodi materion, pryderon a blaenoriaethau sy'n effeithio ar y sefydliadau a gynrychiolir
  • nodi pa rai o’r uchod y dylid eu dwyn i sylw’r Gweinidog priodol yn Llywodraeth Cymru
  • cytuno ar y materion trawsbynciol hynny y gellir lobïo arnynt ar y cyd
  • cyfarfod yn flynyddol gyda Chomisiynydd Plant Cymru
  • cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • cyfarfod yn flynyddol ag aelod cabinet mwyaf perthnasol Llywodraeth Cymru
  • darparu cyfeiriad i rôl Plant yng Nghymru ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • cronni adnoddau i wella'r gallu i gyflawni nodau cytûn ar y cyd
  • cysylltu â Rhwydwaith Swyddogion Polisi Plant yng Nghymru, dylanwadu arno a chael ei lywio ganddo