Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol

Adnoddau nawr ar gael i ysgolion

Gall gwisg ysgol helpu i greu ymdeimlad o gymuned, perthyn a hunaniaeth. Ochr yn ochr â hynny, gall helpu i leihau arwyddion gweladwy incwm is a thlodi, gan leihau stigma, embaras a bwlio cysylltiedig â thlodi.

Fodd bynnag, i lawer o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, mae gwisg ysgol yn achosi straen, pryder a bwlio yn rheolaidd. Os yw teuluoedd yn methu fforddio prynu’r wisg ysgol gywir, caiff dysgwyr yn aml eu bwlio a’u hynysu gan eu cyfoedion, a gall hynny arwain at fwy o absenoldeb, datgysylltu a cholli diddordeb.

"Tase dim bathodyn ar wisg ysgol a’i bod yn blaen, byddai’n rhatach ac yn haws i bobl brynu. Gallai’r ysgol hyd yn oed werthu bathodynnau i’w smwddio mlaen, fel bod e’n rhatach, achos mae gorfod prynu o siop gwisg ysgol yn ddrud iawn” (10-13oed) ​

Trwy’r nodyn briffio hwn, Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol, a’r astudiaethau achos sy’n cyd-fynd ag e, rydyn ni eisiau helpu ysgolion i roi newidiadau ar waith i’w polisïau a’u hymarfer presennol ar gyfer gwisg ysgol, trwy ddod i ddeall yr anawsterau fforddiadwyedd yn well, cynyddu ymwybyddiaeth o effaith polisïau presennol ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a rhannu arferion mae ysgolion yn eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r materion hyn.

"Mae ein hysgol ni yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod plant mewn tlodi ddim yn sefyll allan. Mae gwisg ysgol am ddim i blant sydd angen hynny, a phlant eraill sydd wedi rhoi’r eitemau” (10-13oed) 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help gyda chostau ysgol. Darganfyddwch yr help y gallai eich plentyn gael, yn ogystal â chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol.

Hawliwch help gyda chostau ysgol​​​​​​​

Astudiaethau Achos

 

Ydy eich ysgol chi wedi gwneud newidiadau cadarnhaol ynghylch gwisg ysgol? Hoffech chi eu rhannu nhw yma? Os felly, llenwch ein templed astudiaeth achos a’i anfon drwy e-bost at:

Karen McFarlane, Swyddog Uwch Polisi​ - karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk

Templed Astudiaeth Achos

Adnoddau eraill i gefnogi ysgolion

Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi