Clymblaid o gyrff trydydd sector yw TSANA, sy’n gweithio gydag ystod eang o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi ac yn eu cynrychioli. Caiff y Gynghrair hon ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.
Mae TSANA o’r farn y dylai pob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag yw eu galluoedd, eu hanghenion addysgol neu eu hamgylchiadau, fedru gwireddu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Rydyn ni’n credu mewn addysg sy’n deg ac yn gyfartal, ac rydyn ni’n gweithio i wella’r canlyniadau a’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso, eu parchu a’u cynrychioli.
Hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn arbennig yng nghyswllt plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae aelodaeth yn agored i unrhyw sefydliad yn y trydydd sector sydd â diddordeb gwaith mewn plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.