Mae TSANA yn glymblaid o gyrff trydydd sector sy’n gweithio gydag ystod eang o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi ac yn eu cynrychioli. Caiff y Gynghrair hon ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.
Rydyn ni’n gweithio i wella’r canlyniadau a’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso, eu parchu a’u cynrychioli.
O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cyhoeddi datganiadau safbwynt. Mae’r rhain yn helpu ein Cynghrair i siarad ar y cyd ag un llais, i gynyddu ymwybyddiaeth ar faterion penodol, ac i hybu newid polisi ac ymarfer ledled Cymru.