Fe wadwyd y cyfle i blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn Refferendwm yr UE a benderfynodd y byddai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mai plant a phobl ifanc gaiff eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad i adael. Bydd hyn yn cael effaith ar ein haelodau hefyd, gan gynnwys gweithlu’r plant sy’n darparu gwasanaethau i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
Trwy weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau hawliau plant a chynghreiriau yng Nghymru, y DU ac Ewrop, mae Plant yng Nghymru’n gweithio ar raglen sy’n ystyried y goblygiadau i blant, eu teuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Mae hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant a’r CCUHP yn sylfaen i’n gwaith.
Mae llawer o ansicrwydd yn parhau ynghylch Brexit a bydd angen i’n rhaglen waith fod yn ymatebol i newid. Fodd bynnag, mae ein hegwyddorion cyffredinol sy’n arwain ein gwaith yn cynnwys
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’n haelodau a phartneriaid, gan gynnwys Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Eurochild a UK Child Rights Alliances, i gynhyrchu nifer o adroddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau a briffiau yn gyfnodol. Gellir eu lawrlwytho o Adran Adnoddau'r wefan hon. I gyrchu digwyddiadau’r gorffennol ac yn y dyfodol, ewch i Adran Digwyddiadau'r wefan hon os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag info@childreninwales.org.uk