Llais y Baban – Ymgynghori â Rhieni

Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i faban neu blentyn ifanc o dan 2 oed? Helpwch ni i ddeall beth sydd ei angen ar eich baban gennych chi a phobl eraill o’u cwmpas.

Rydyn ni’n datblygu adduned baban, fydd yn nodi beth dylai babanod ddisgwyl gan y rhai o’u cwmpas. Bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi llais y baban mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac amgylcheddau.

Byddwn ni’n gofyn 3 chwestiwn i chi i weld beth rydych chi’n meddwl sydd ei angen ar fabanod, a bydden ni’n hoffi i chi ateb o bersbectif baban (o dan 2 oed)

Dylai’r ymarferiad ymgynghori ddim cymryd mwy na 5-10 munud – dim ond sganio’r côd QR sy raid. Bydd ar agor tan 17 IONAWR 2025

Baby voice consultation Parent - QR Cym.png

Neu cliciwch yma:  https://www.menti.com/alyfkb2u7zgv