Post blog gan Chwarae Cymru

Mae astudiaethau lu yn dweud wrthym fod cyfleoedd i chwarae’n rhoi cyfle i blant gefnogi eu lles uniongyrchol wrth gynyddu sgiliau bywyd yn naturiol sy’n cyfrannu at ddeilliannau datblygu tymor hir.

Children in Wales 030524.png

Ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y byd yn ei gefnogaeth i hawl plant i chwarae. Tra’i bod yn ddefnyddiol weithiau i edrych yn ôl yn llawn balchder ar yr hyn a gyflawnwyd dros amser o ran polisi chwarae, mae’n bwysig hefyd bod yn ymwybodol o ac ymateb i gyfeiriad polisi cyfredol.

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymateb i’r argymhellion yn adroddiad grŵp llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, penllanw adolygiad cydweithredol dros dair blynedd o hyd o waith polisi chwarae Llywodraeth Cymru. Bydd rhoi’r argymhellion a amlinellwyd gan y grŵp llywio ar waith yn gwella cyfleoedd i chwarae ar gyfer plant ledled Cymru.

Hefyd yn 2023,  cyhoeddodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn ei Sylwadau Clo ar gyfer y DU. Cyhoeddir y Sylwadau Clo yn dilyn proses adrodd fanwl, sy’n cynnwys derbyn casgliad amrywiol o dystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar. Yma yng Nghymru, casglwyd tystiolaeth o bob cwr o gymdeithas sifil gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru’n dal i weithio ar ei ymateb i Sylwadau Clo y DU 2023, ceir rhywfaint o gysylltiadau rhwng yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a Sylwadau Clo y DU sy’n ymwneud â chwarae:

Mae Pwyllgor y CU yn argymell y dylai’r Wladwriaeth sy’n Barti: Datblygu strategaeth, gydag adnoddau digonol, sy’n anelu i sicrhau hawl plant i orffwys, hamdden ac adloniant, yn cynnwys chwarae’n rhydd y tu allan.

Mae Thema 1 yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yn cwmpasu’r deddfau a’r polisïau sy’n ymwneud â’r hawl i chwarae. Penderfynodd y grŵp llywio y byddai alinio polisïau a deddfau allweddol yn helpu mwy o blant i chwarae’n amlach. Mae Thema 2: y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae ac ariannu’n cwmpasu pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd i gynllunio a darparu ar gyfer chwarae, yn cynnwys neilltuo arian ar gyfer chwarae.

Mae chwe argymhelliad gan y grŵp llywio’n dynodi cerrig milltir allweddol y dylai Llywodraeth Cymru eu cyflawni er mwyn sicrhau ymateb strategol, â digon o adnoddau, i chwarae.

Mae Pwyllgor y CU yn argymell y dylai’r Wladwriaeth sy’n Barti: Integreiddio hawl plant i chwarae mewn cwricwla ysgolion

Mae un o themâu eraill yr adolygiad yn canolbwyntio ar chwarae mewn ysgolion. Daeth y grŵp llywio i’r casgliad bod chwarae mewn ysgolion yn bwysig i’w ystyried oherwydd bod plant yn treulio llawer o amser yn yr ysgol. Weithiau, dyma’r prif fan ble gall plant chwarae gyda’u ffrindiau. Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys hyrwyddo defnyddio tiroedd ysgolion fel ased cymunedol ar gyfer chwarae a cherrig milltir sy’n anelu i gynyddu a gwella amser chwarae ac egwyliau’n ystod y diwrnod ysgol.

Mae Pwyllgor y CU yn argymell y dylai’r Wladwriaeth sy’n Barti: Atgyfnerthu mesurau i sicrhau bod pob plentyn, yn cynnwys plant ag anableddau, plant ifanc, plant mewn ardaloedd gwledig a phlant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig, yn cael mynediad i ofodau chwarae awyr agored cyhoeddus sy’n hygyrch a diogel.

Cynnwys plant mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â phrosesau cynllunio trefol.

Mae cyfiawnder gofodol yn golygu sicrhau bod cymdogaethau a mannau cyhoeddus eraill yn addas ar gyfer chwarae a’u bod yn groesawus i blant o bob oed. Fe archwiliodd thema cyfiawnder gofodol yr adolygiad pam a sut y mae angen i Lywodraeth Cymru wneud cymdogaethau a mannau cyhoeddus eraill yn fwy anogol a chroesawus i chwarae. Fe wnaeth trafodaethau gynnwys polisïau cenedlaethol allweddol sy’n cael effaith ar weld plant yn gallu chwarae yn eu cymdogaethau a mannau cyhoeddus. Mae negeseuon allweddol gan y grŵp llywio’n cynnwys sicrhau bod:

  • arweiniad am gynllunio cymdogaethau a threfi’n cofio ystyried y modd y bydd plant yn symud o amgylch eu cymunedau i chwarae
  • sylwadau a phrofiadau plant yn hysbysu’r ffyrdd y caiff cymdogaethau eu cynllunio a’u rheoli.

Mae ymchwil yn dangos y gall amser, lle a rhyddid i chwarae fod o fudd mawr i iechyd meddwl plant, gan liniaru straen a lleihau effaith niweidiol trawma. Mae deall hyn yn helpu pob oedolyn i eiriol dros arddull seiliedig ar hawliau i gefnogi chwarae plant a’i bwysigrwydd iddynt yn eu bywydau uniongyrchol a’u profiadau bob dydd.

’Does dim dwywaith bod gan Lywodraeth Cymru lawer i fod yn falch ohono o ran datblygu polisi ar gyfer plant a’u chwarae. Ugain mlynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r polisi chwarae cyntaf yn y byd, a’i ddilyn ddegawd yn ddiweddarach gan gychwyn Dyletswyddau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol. Mae’n allweddol bod y cynnydd yma, sy’n torri cwys ryngwladol newydd, ar ran plant yn cael ei gynnal a’i feithrin. Bellach, mae angen i’r ffocws fod ar ymrwymiad i barhau i weithredu’r polisïau hyn.

Mae oedolion ym mhob lleoliad ac ar bob lefel yn cyfrif. O weithiwr plant wedi’i leoli yn y gymuned i Brif Weinidog newydd Cymru, mae angen i bob un ohonom fod yn fwy gwybodus ynghylch chwarae er mwyn gwneud gwahaniaeth i brofiadau bob dydd plant.

Darganfyddwch ragor am waith Chwarae Cymru yma.