Hoffai Cyswllt Rhieni Cymru longyfarch ein partner, Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN) Gorllewin Morgannwg, ar fod yn rhan o raglen ar BBC Wales.
Mae’r rhaglen, sydd â’r teitl ‘Don’t Take our Kids’, yn dathlu llwyddiant cyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT) yn ne Cymru. Ers 2012, maen nhw wedi haneru nifer y plant sydd mewn gofal, a bellach mae ganddyn nhw un o’r cyfraddau isaf yng Nghymru.
PAN Gorllewin Morgannwg yw un o’r prosiectau sy’n cefnogi teuluoedd yn ne Cymru, ac mae wedi cyfrannu at y llwyddiant anhygoel yma. Rheolir y prosiect gan Fiona Macloed sy’n ymarferydd gwaith cymdeithasol profiadol. Mae PAN yn cynnal Caffi i Rieni, wedi’i hwyluso gan weithwyr cymdeithasol, ond dan arweiniad rhieni sydd i gyd wedi ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnig eiriolaeth cymheiriaid, sesiynau galw heibio, gweithdai llais, diwrnodau o hwyl i’r teulu a sesiynau hyfforddi.
Gwir lwyddiant PAN yw sut mae wedi grymuso rhieni i rannu eu profiadau bywyd o’r system gwasanaethau cymdeithasol er mwyn helpu eraill. Mae hyder y rhieni wedi cynyddu wrth iddyn nhw ddatblygu rhwydwaith o gefnogaeth a defnyddio’u llais a’u harbenigedd i gyflawni newid. Mae hon yn enghraifft anhygoel o sut mae modd defnyddio lleisiau rhieni i ddylanwadu ar bolisi a hyrwyddo hawliau eu plant.
I wylio’r rhaglen, dilynwch y ddolen hon i BBC iPlayer:-
Dont Take Our Kids - BBC iPlayer
Mae rhagor o wybodaeth yn yr erthygl hon:-
Children in care: How Neath Port Talbot council is tackling rise - BBC News
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau mae Rhwydwaith PAN yn eu darparu, cliciwch yma:-
PAN (Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni) Gorllewin Morgannwg (dewis.cymru)
Caffi Rhieni Castell-nedd Port Talbot – sesiwn galw heibio i rieni (dewis.cymru)
I ymuno â thudalen Rhwydwaith PAN ar Facebook, cliciwch yma:-
PAN - Parent Advocacy Network - West Glamorgan | Neath | Facebook