Plant yng Nghymru yw'r sefydliad trosfwaol cenedlaethol ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru, a seilir ei waith ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Bydd ein Cadeirydd presennol, Dr Dave Williams, yn rhoi’r gorau i’w swydd yn ein CCB ym mis Hydref 2022 ar ôl dau dymor llawn o wasanaeth. O ganlyniad, rydym ni’n awyddus i recriwtio Cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Mae'r Cadeirydd yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i aelodau'r sefydliad am ei lywodraethiant a'i gyfeiriad strategol. Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i’r sefydliad, wrth i ni lansio ein gweledigaeth newydd a’n datganiad cenhadaeth, ynghyd â gwaith uniongyrchol cynyddol gyda phlant a phobl ifanc, gan eu galluogi i ddylanwadu ar bolisi.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel uwch mewn sefydliad mawr, boed hynny yn y sector academaidd, statudol neu nid-er-elw. Mae profiad mewn swydd gyhoeddus ac ar Fwrdd Ymddiriedolwyr neu Bwyllgor Rheoli sefydliad tebyg i'w ddymuno'n fawr. Rhaid bod gan ymgeiswyr ymrwymiad gweladwy a diddordeb mewn hawliau plant. Rydym ni’n awyddus i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gynrychioli holl ystod ein haelodau a holl gymuned plant a phobl ifanc Cymru. Dylai'r Cadeirydd fod mewn sefyllfa i fedru siarad yn annibynnol ar ran Plant yng Nghymru.
Yn anad dim, byddwch chi’n credu’n angerddol mewn gwella bywydau ein plant a’n pobl ifanc, ac yn ymroddedig i ysbrydoli pawb â’n gweledigaeth ohonynt fel calon Cymru gadarn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i barhau â’r gwaith a wnaed eisoes gan yr elusen hon, ac i wneud gwahaniaeth pwysig i fywydau plant yn y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi.
Mae angen ymrwymiad amser cymedrol i gyflawni swydd y Cadeirydd, ac nid oes cyflog am y gwaith, er bod modd hawlio costau teithio. Ar hyn o bryd mae cyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd yn cael eu cynnal bob chwarter, ond dylai'r Cadeirydd ddisgwyl ymrwymo i o leiaf 12 cyfarfod y flwyddyn.
Gwnewch gais yma