CYSTADLEUAETH BANERI BACH: PEN-BLWYDD PLANT YNG NGHYMRU YN 30
Cyfle creadigol i ysgolion, grwpiau cymunedol, lleoliadau gofal plant a chwarae gynyddu ymwybyddiaeth o Hawliau Plant a chael hwyl wrth feddwl pa hawliau sydd bwysicaf i blant a phobl ifanc.
Y Cefndir
2023 – 2024 yw blwyddyn pen-blwydd Plant yng Nghymru yn 30. I ddathlu’r garreg filltir bwysig hon, rydyn ni’n trefnu cystadleuaeth greadigol i ysgolion, grwpiau cymdeithasol, lleoliadau gofal plant a chwarae. Rydyn ni’n gofyn i gyfranogwyr ddylunio’u baneri bach eu hunain ar sail eu dewis o hawliau plant. Cewch restr gynhwysfawr o hawliau plant yma: https://bit.ly/3Xh6LQf
Bydd yr holl faneri bach sy’n cael eu creu yn cael eu harddangos yng ngŵyl Cymru Ifanc flynyddol Plant yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023.
Y Wobr
Taleb £25 ar gyfer y cyfranogwyr sy’n ennill y wobr gyntaf, yr ail wobr a’r drydedd wobr
Aelodaeth o Plant yng Nghymru am ddim am flwyddyn i grwp y cyfranogwr sy’n ennill y wobr gyntaf
Erthygl yn rhifyn Gaeaf e-gylchgrawn Plant yng Nghymru i grwp y cyfranogwr sy’n ennill y wobr gyntaf
Dyddiad cau a Chyflwyno
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r baneri bach yw dydd Gwener 20 Hydref.
Gallwch sganio’r baneri bach a’u hanfon aton ni’n ddigidol i info@childreninwales.org.uk neu eu postio i gyfeiriad swyddfa Plant yng Nghymru, sef: Plant yng Nghymru, 21 Plas Windsor, Caerdydd, CF10 3BY
Gofalwch eich bod yn cwblhau manylion cyswllt eich grwp yn ymyl y faner fach