Mae Cyswllt Rhieni Cymru, sy’n un o brosiectau Plant yng Nghymru, wedi datblygu sesiwn hyfforddi ar gyfer rhieni ynghylch ‘Hawliau Plant a Chymryd Rhan fel Rhiant’. Nod yr hyfforddiant hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant a grymuso rhieni i eiriol ar ran eu plant.
Un o’n partneriaethau allweddol oedd yr un gyda Kidcare4U, sef elusen gofrestredig sy’n cefnogi oedolion a phlant o gymunedau ethnig yng Nghasnewydd sydd o dan anfantais.
Gall iaith fod yn rhwystr allweddol i gyfranogiad rhieni o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig yn achos pobl sy’n llai rhugl mewn Saesneg. Er mwyn rhoi sylw i hyn, treialwyd ein sesiynau hyfforddi â chymorth cyfieithwyr i rieni Bangla neu Arabeg iaith gyntaf. Roedd hynny’n sicrhau bod y cynnwys yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Ymateb i anghenion y gymuned
Dogfen y cytunwyd arni yn rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sy’n cydnabod pwysigrwydd hawliau a rhyddid plant, ac yn hyrwyddo lles pennaf y plentyn. Mae’n rhestr o’r hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed.
I gyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), aeth gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ati i gydgynhyrchu poster sy’n crynhoi’r hawliau gan ddefnyddio iaith syml, hawdd ei deall.
Defnyddiwyd y poster hwn yn y sesiynau treialu er mwyn cyflwyno CCUHP. Ond roedd llawer o rieni yn cael bod y poster Saesneg a rhai o’r cysyniadau yn anodd eu deall. O ganlyniad, cyfieithwyd poster CCUHP i’w hieithoedd cymunedol.
O ganlyniad, mae’r poster bellach wedi cael ei gyfieithu a’i gyhoeddi mewn pum iaith gymunedol allweddol: Arabeg, Wrdw, Bangla, Pwyleg, a Rwmaneg.
Sicrhau bod hawliau’n hygyrch
Pan ddaeth Cyswllt Rhieni Cymru yn ôl at yr un grŵp o rieni i gyflwyno’r hyfforddiant a ddatblygwyd yn llawn, aethant ati i ddosbarthu’r posteri wedi’u cyfieithu. Roedd y rhieni’n falch o’u cael nhw mewn Arabeg a Bangla. Roedd yr adnoddau hyn yn gyfrwng iddyn nhw ddeall hawliau eu plant yn drylwyr a theimlo wedi’u grymuso i godi llais ac eiriol dros eu plant.
Mae’r posteri hyn yn adnoddau gwerthfawr sy’n gwella mynediad at CCUHP ar gyfer cymunedau amrywiol ledled Cymru. Gallwch gael mynediad atynt yma: