12.png

Ers dros 30 mlynedd, mae Plant yng Nghymru wedi bod yn eiriolwr cadarn dros blant a phobl ifanc. Trwy gydol y cyfnod hwn rydym wedi cyflawni i'n haelodau, a'n cyllidwyr, gan sicrhau bod buddiannau gorau plant a phobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. 

Wrth lunio ein strategaeth newydd, fe wnaethom gynnal cannoedd o sgyrsiau gyda chydweithwyr, pobl ifanc, aelodau, ymddiriedolwyr a phartneriaid. Trwy ein sgyrsiau, clywsom yn gyson bod CiW ar ei orau pan fydd ein gwaith wedi'i wreiddio yn hawliau, lleisiau a dyheadau plant a phobl ifanc. Clywsom sut mae ein henw da cryf wedi'i adeiladu ar flynyddoedd o hyrwyddo hawliau plant - trwy hyfforddiant, eiriolaeth, darparu llwyfannau i ymhelaethu ar leisiau ein haelodau - a dylanwadu yn effeithiol ar ran plant a'n haelodau. 

Mae'r sgyrsiau hyn yn ei gwneud hi'n glir hefyd na allwn fod yn goddefol. Mae babanod, plant a phobl ifanc, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw, yn wynebu set ddigynsail o heriau, y mae gan Blant yng Nghymru rôl i fynd i'r afael â nhw'n weithredol. 

Mae ein strategaeth pum mlynedd yn ein gosod ar y trywydd iawn i ymateb i'r heriau hyn. Rydym wedi gosod nodau uchelgeisiol, sy'n cael eu gyrru gan werthoedd sy'n ein hangori yn ein rolau craidd - cynrychioli ein haelodau, ymhelaethu ar leisiau plant, a dylanwadu ar bolisi i gyflawni canlyniadau gwell - wrth addasu ein gwasanaethau i fod y gorau y gallant fod. 

Dywedodd Hugh Russell, Prif Swyddog Gweithredol: 
 
"Diolch i'm cydweithwyr, ein haelodau bwrdd ymroddedig, a phobl ifanc, aelodau a phartneriaid CiW sydd wedi rhoi benthyg eu llais i ddatblygu ein cynllun strategol. Mae cydweithio yn ein DNA, ac mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld cymaint ohonoch yn cyfrannu at y cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at ei gyflwyno gyda chi." 

Darllenwch y strategaeth yma.