Ar ôl ystyried yn ofalus, mae Plant yng Nghymru wedi penderfynu rhoi'r gorau i bostio a monitro ein cyfrifon X. Nid yw datblygiadau diweddar sy'n ymwneud â'r platfform yn cyd-fynd â gwerthoedd ac egwyddorion ein gwaith sy'n eiriol dros hawliau plant.
Yn hytrach, byddwn yn defnyddio'r cyfrifon canlynol i rannu diweddariadau o bob rhan o'r sector, gan ein tîm, ac oddi wrth ein haelodau:
- Bluesky: (@childreninwales.org.uk) — Bluesky
- LinkedIn: Children in Wales
- Instagram: @youngwalesciw
- Facebook: Children in Wales
Rydym hefyd yn rhannu newyddion bob pythefnos o bob rhan o'r sector a chyfleoedd hyfforddi gyda'n haelodau ar ffurf e-friffiau, gan gyrraedd dros 3,000 o dderbynwyr. Gall aelodau gyfrannu at y rhain yn ogystal â'n cylchgrawn chwarterol. Os hoffech dderbyn neu gyfrannu at y diweddariadau hyn, cofrestrwch yma.
Aelodau: Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y symudiad hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm yma. Rydym yn hapus i drefnu gweithdy/sesiwn holi ac ateb ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio yn y sector plant i drafod ein proses gynllunio a'n strategaeth ar gyfer gadael X ac ymuno â Bluesky.