Mae Plant yng Nghymru yn croesawu cyllideb Llywodraeth Cymru heddiw ar gyfer 2025–26, sy’n addo sicrhau manteision i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae ffocws y gyllideb ar feysydd fel gwella mynediad i addysg, gofal plant fforddiadwy, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cyd-fynd â sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda’n haelodau ac yn ein hymchwil gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Dywedodd teuluoedd wrthym trwy ein harolwg tlodi plant a theuluoedd fod costau gofal plant yn effeithio’n negyddol ar eu sefyllfa ariannol, gan leihau eu gallu i fforddio hanfodion a’u rhoi mewn dyled. Un o’r darpariaethau yn y gyllideb yw ehangu’r cynnig Gofal Plant, a fydd yn dyrannu 30 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant 3 a 4 oed. Bydd hyn yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ac yn gwella mynediad i addysg plentyndod cynnar.
Yn ogystal ag ehangu’r cynnig gofal plant, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg, a fydd yn golygu y bydd pob plentyn 2 oed yn gymwys i gael gofal plant o safon yn fuan. Mae hyn yn sicrhau bod plant o deuluoedd incwm isel yn cael mynediad at gyfleoedd addysg gynnar, gan helpu i gau’r bwlch cyflawniad o oedran ifanc.
Elfen allweddol arall yn y gyllideb yw cyflwyno pris tocyn sengl £1 i bobl ifanc 16–21 oed. Mae canfyddiadau ein harolwg tlodi plant a theuluoedd blynyddol yn nodi sut mae trafnidiaeth yn rhwystr gwirioneddol i bobl ifanc: “Mae’n effeithio ar bobl ifanc gan ei fod yn golygu eu bod, mewn gwirionedd, yn ‘gaeth’ i'w cartrefi. Ni allan nhw gymryd rhan mewn pethau a fyddai’n gwella ansawdd eu bywyd a’u llesiant cyffredinol ac ni allan nhw fwynhau bywyd a bod yn blentyn.” (19–25 oed). Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i leihau costau teithio, gan ei gwneud yn haws i bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae gwella fforddiadwyedd trafnidiaeth yn mynd i’r afael â rhwystr allweddol i symudedd i bobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:
“Rwy’n falch o weld rhai o’r meysydd blaenoriaeth hyn – gofal plant, trafnidiaeth gyhoeddus, hwb i’r gyllideb addysg – yn cael sylw yn y gyllideb hon. Mae rhoi hwb i gyllid yn rhai o’r eitemau cyllideb hyn yn ymateb i’w groesawu i rai o’r materion sydd wedi dod i’r amlwg yn glir yn ein hymchwil fel rhai sy’n dal plant yn ôl – roedd trafnidiaeth gyhoeddus anfforddiadwy, er enghraifft, yn fater allweddol yn ein hadroddiad diweddar ar dlodi plant a theuluoedd, y bydd y fenter tocynnau bws £1 yn mynd i’r afael ag ef. Rydym yn parhau i bryderu am effaith newid Llywodraeth y DU i gyfrifiadau Yswiriant Gwladol a’r effaith ar ein haelodau, nad yw lliniaru hyn wedi'i gynnwys yn y gyllideb hon. Bydd y newidiadau yma yn pentyrru costau ychwanegol ar sefydliadau, gan gynnwys elusennau sy’n gweithio gyda’n plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, ac mae yna risg y byddant yn tanseilio rhywfaint o’r gwaith da y bydd y gyllideb hon yng Nghymru yn ei alluogi fel arall.”