Mae Diwrnod Rhyngwladol Cinio Ysgol yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 9 Mawrth a'i nod yw codi ymwybyddiaeth o faeth da i bob plentyn gwaeth beth fo'u hamgylchiadau.
Eleni, mae'r ffocws ar ‘Ein harferion bwyd’ – gan edrych ar newidiadau mewn dulliau (e.e. cynhyrchu neu goginio bwyd), bwydlenni (e.e. o wledydd gwahanol neu sut mae bwydlenni'n cael eu creu) ac enghreifftiau o sut mae prydau penodol wedi newid dros amser.
Cefnogir Diwrnod Rhyngwladol Cinio Ysgol gan Lywodraeth Cymru a Plant yng Nghymru ac rydym yn annog ysgolion ledled Cymru i gymryd rhan ar y dydd i ddathlu cinio ysgol.
Byddwn yn datblygu pecyn cymorth o adnoddau gydag asedau cyfryngau cymdeithasol, templedi a thaflenni gwestiynau i'ch helpu i gynllunio gweithgareddau naill ai yn ystafell ddosbarth yr ysgol neu yn y gegin i annog plant i feddwl am eu hoff brydau bwyd a sut maen nhw'n cael eu cynhyrchu.