Mae Cyngor Trawma y Deyrnas Unedig wedi datblygu naw egwyddor a lywiwyd gan ddealltwriaeth o drawma cymhleth, ei effaith ar ddatblygiad plant, ac ymatebion seiliedig ar dystiolaeth y gall rhoddwyr gofal, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ymwneud â nhw er mwyn rhoi sylw i effeithiau trawma cymhleth.
Egwyddorion:
- Sefydlu diffiniad cyffredin o drawma cymhleth
- Hyrwyddo a sefydlogi cydberthynas o ymddiriedaeth
- Meithrin rhyngweithio cefnogol
- Mynd ati i alluogi pobl ifanc
- Adnabod addasiadau ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol
- Ymateb yn gyfannol i anghenion lluosog
- Darparu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth
- Taclo’r cyd-destun a ffactorau systemig
- Cefnogi’r gweithlu
I gael rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion hyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, darllenwch Trawma cymhleth: egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol i blant.