O ddydd Llun, 21 Mawrth 2022, bydd hawliau plant yn cael eu hamddiffyn ymhellach a bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae Plant yng Nghymru wedi ymgyrchu o’r dechrau i stopio cosbi plant yn gorfforol, gan alw am roi cyfreithiau ar waith i amddiffyn plant yn llawn rhag ymosodiad. Mae hyn bellach yn realiti wrth i Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ddod yn gyfraith.
Beth mae hyn yn ei olygu i blant?
· Bydd cosbi corfforol o bob math yn anghyfreithlon yng Nghymru
· Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion
· Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach, a bydd yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd ei deall.
Mae’r gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn – yn ogystal ag ymwelwyr â Chymru
Meddai Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru
“Mae heddiw yn foment hanesyddol gan y bydd gan blant ledled Cymru bellach yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Rydyn ni’n llwyr gefnogi’r newid hwn yn y gyfraith a buon ni’n ymgyrchu ers tro byd i stopio cosbi corfforol. Mae ein gwlad ar daith flaengar i wireddu hawliau plant yn llwyr, ac mae’r newid yn y gyfraith heddiw yn gam sylweddol ymlaen i’r cyfeiriad hwn.”
Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?
Fe gewch ragor o wybodaeth am y newid yn y gyfraith trwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru lle mae casgliad o adnoddau ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
Mae gwefan Magu Plant. Rhowch Amser iddo yn cynnig syniadau, awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol.
Beth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi’r gyfraith newydd?
Mae Plant yng Nghymru yn cyflwyno prosiect a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r newidiadau yn y gyfraith i blant a phobl ifanc. Rydyn ni wrthi’n cyflwyno cyfres o weithgareddau ymgysylltu â phlant a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Sefydlwyd pedwar grŵp cynghori; tri grŵp gyda phlant a phobl ifanc o wahanol oedrannau a gwahanol anghenion, a phedwerydd grŵp sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol.
Mae ein rhaglen waith yn canolbwyntio ar dri amcan canolog
• Datblygu cynllun ymgysylltu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid perthnasol gan gynnwys pobl ifanc.
• Datblygu adnoddau perthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill ynghylch y newidiadau i’r gyfraith, wedi’u gwreiddio yng nghyd-destun hawliau plant a newidiadau ategol yn y ddeddfwriaeth.
• Cynnal cynllun cynyddu ymwybyddiaeth er mwyn helpu i hyrwyddo’r adnoddau a rhaeadru gwybodaeth am y newidiadau deddfwriaethol
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein prosiect, cysylltwch ag elaine.speyer@childreninwales.org.uk