EuroChild yw’r rhwydwaith mwyaf o sefydliadau hawliau plant yn Ewrop, ac mae’n cynrychioli 211 o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant ac ar eu rhan.

Ym mis Chwefror eleni, bu Cymru Ifanc yn cefnogi Arthur T yn ei gais i ddod yn aelod o 4ydd Cyngor Plant EuroChild. Cafodd ei gais ei ystyried yn erbyn llawer o geisiadau eraill o bob rhan o Ewrop ar gyfer un o’r 8 lle oedd ar gael ar y cyngor 12-person a fyddai’n gwasanaethu rhwng Mehefin 2024 a Mehefin 2026.

Ym mis Ebrill, cafodd Arthur e-bost yn cadarhau ei fod yn llwyddiannus, a’i sylw oedd, “Rwy’n teimlo fel mod i wedi ennill y loteri” a “dyma’r jacpot o ran cyfleoedd.”

Ar 28 Mehefin, yng nghwmni staff Cymru Ifanc, teithiodd Arthur i Malta i gwrdd â’i gydweithwyr newydd a’r cyngor blaenorol i weithio ar y cyfnod trosglwyddo a’r blaenoriaethau oedd newydd eu pennu.

Gwaith un o’r sesiynau oedd cynhyrchu fersiwn “darllen hwylus” o adroddiad Prosiect y Llais. Trwy gydweithio, cymerodd y ddau gyngor rannau o’r adroddiad 80 tudalen, a chynhyrchu crynodeb 8 tudalen addas i bawb, gyda’r nod o greu dogfen ddeniadol, llawn gwybodaeth i blant a phobl ifanc.

Ar ddiwedd y 3 diwrnod o sesiynau, cynhaliwyd y Seremoni Drosglwyddo yn agoriad Cynhadledd fawr Eurochild 2024. Cafodd Arthur gyfle i siarad â 150 o gynrychiolwyr, yn cynnwys Marie-Louise Coleiro Preca, KUOM, a fu’n gwasanaethu fel Llywydd Malta o 2014 tan 2019, a Michael Falzon, Gweinidog presennol Malta ar gyfer Polisi Cymdeithasol a Hawliau Plant. Soniodd Arthur mor gyffrous oedd cael ei ddewis, gan gyfeirio at ei obeithion a’i nodau yn ystod ei ddwy flynedd ar y Cyngor, a chafodd ymateb cynnes o chwerthin a chymeradwyaeth gan y gynulleidfa.

Bydd y Cyngor yn cwrdd ar-lein i drafod a gweithio ar eu blaenoriaethau, a byddan nhw’n ymgynnull eto ym Mrwsel ym mis Tachwedd.

 

EuroChild Malta 2024
EuroChild Council 2024
Children in Wales Staff Member