Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn hwyluso prosiect ymchwil cyfoedion sy'n cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Dde Cymru. Fe wnaethon nhw ymchwilio i'r cwestiwn:
“Cynaliadwyedd a chostau byw bywyd cynaliadwy. Pa bethau sy'n rhwystro pobl ifanc rhag bod yn ecogyfeillgar yng Nghymru?"
Maen nhw wedi ysgrifennu adroddiad am eu canfyddiadau a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad Ddydd Gwener 14 Mawrth 2025 rhwng 10.30am ac 1.30pm yn sbarc|spark, Caerdydd.
Bydd y digwyddiad dan arweiniad pobl ifanc yn cynnwys plant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r gweithlu plant, sefydliadau amgylcheddol ac ymchwilwyr yn y maes.
Bydd y digwyddiad yn rhoi llwyfan i'r ymchwilwyr cyfoedion lansio eu canfyddiadau a'u hargymhellion. Byddan nhw'n arddangos eu hyfforddiant fel hyfforddwyr dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer prosiectau eraill dan arweiniad pobl ifanc ac yn rhannu eu profiad o gymryd rhan fel ymchwilwyr dan arweiniad pobl ifanc. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i lansio strategaeth newydd Plant yng Nghymru ac edrych i'r dyfodol.
Darperir cinio.