Mae Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru 2022 yn ddigwyddiad newydd a chyffrous, ac mae’r braf gweld bod digwyddiad tebyg i’r hyn sydd wedi bod yn cael ei gynnal yn yr Alban a Lloegr ers blynyddoedd, bellach yn cael ei gynnal yng Nghymru.
Mae’r ŵyl, a gynhelir ar faes y sioe yn Llanfair-ym-Muallt, yn cael ei mynychu gan 300 o ofalwyr ifanc 12-18 oed o ledled Cymru, gan gynrychioli 19 o siroedd.
Mae’n cael ei chynnal dros gyfnod o 3 diwrnod a 2 noson, gan roi cyfle i ofalwyr ifanc gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu, rhywbeth sydd bob amser yn hanfodol, yn enwedig ar hyn o bryd yn sgil y pandemig COVID. Mae hefyd yn gyfle unigryw iddyn nhw gwrdd ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg, gan wneud ffrindiau newydd, cael hwyl, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, ymlacio a mwynhau’r rhyddid i fod yn blant neu’n bobl ifanc!
Mae Credu mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi cefnogaeth hael i’r ŵyl, a rhagwelir y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol i ofalwyr ifanc yng Nghymru.