
Mae eleni’n nodi dechrau’r daith tuag at yr archwiliad nesaf o gynnydd y llywodraeth wrth weithredu Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Plant yng Nghymru, ar y cyd â’n partneriaid yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, bellach yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno Adroddiad ar Gyflwr Hawliau Plant yng Nghymru ar gyfer Pwyllgor y CU i helpu i lywio eu hadolygiad sydd ar ddod. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i alw’r llywodraeth i gyfrif ac i nodi meysydd ar gyfer newid. Rydyn ni’n cyflwyno’r Alwad hon am Dystiolaeth i gasglu’r blaenoriaethau hawliau plant sydd i’w cynnwys yn yr Adroddiad. Nawr mae arnon ni angen eich blaenoriaethau a’ch tystiolaeth chi i’n helpu i benderfynu beth i’w gynnwys a beth sydd angen newid ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych chi.
Ni hefyd yn trefnu dau ddigwyddiad arlein – darganfyddwch mwy am y ddau yma.