Ydych chi’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc? Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am hawliau babanod a phlant ifanc ac eiriol drostyn nhw? Os felly, falle byddai gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN).
Mae’r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys ystod o weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn hawliau plant ifanc. Mae’n cynnwys pobl sy’n gweithio mewn Prifysgolion, Awdurdodau Lleol, Elusennau, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a mwy. Mae’n cael ei gydlynu a’i hwyluso ar y cyd gan Plant yng Nghymru ac Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe.
Nod CREYN yw pontio’r bwlch rhwng ymarfer, polisi, ac ymchwil, rhannu a chyfnewid gwybodaeth, ac eiriol ar y cyd dros hawliau babanod a phlant ifanc.
Mae’r Rhwydwaith yn cwrdd ar-lein bedair gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal cynhadledd flynyddol. Ffocws cynhadledd y llynedd oedd Gwrando ar ein Plant Ifancaf, ac roedd yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Cewch ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen isod:
Children in Wales | Listening to our Youngest Children - Perspectives from across the UK
Rydyn ni’n chwilio am aelodau newydd – mae aelodaeth yn agored i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â diddordeb mewn hawliau plant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â CREYN, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi yn Plant yng Nghymru: anna.westall@childreninwales.org.uk neu
Jacky Tyrie, Cyfarwyddwr y Rhaglen MA mewn Astudiaethau Plentyndod ac Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Abertawe: j.tyrie@swansea.ac.uk