Heddiw lansiodd Plant yng Nghymru'r adroddiad ar ganfyddiadau ein 5ed arolwg Blynyddol ar Dlodi Plant a Theuluoedd. Mae'r canfyddiadau'n llwm ac yn annerbyniol. Ceisiodd yr arolygon ddeall mwy am y materion cyfredol y mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu hwynebu, yr effaith y mae hyn yn ei chael, ac yn sylweddol, clywed barn plant a phobl ifanc eu hunain. Mae profiadau ac arsylwadau'r ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dros 33,000 o deuluoedd yn dangos bod y sefyllfa dlodi yn dirywio i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi ac yn wynebu heriau ariannol yn ddyddiol. Yn yr arolwg, nododd ymatebwyr gynnydd yn lefelau dyled, newyn, straen a phryder. Mae plant a phobl ifanc eu hunain wedi nodi bod y 'bwlio sy'n gysylltiedig â'u tlodi nhw' ac 'eu hiechyd emosiynol gwael' yn materion o bwys.
Dywedodd Karen McFarlane, Swyddog Polisi am dlodi ac awdur yr adroddiad:
“Mae’r arolygon tlodi yn eu 5ed flwyddyn erbyn nawr ac er bod rhai o’r materion penodol wedi newid dros y blynyddoedd, ychydig iawn sydd wedi newid dros y cyfnod pum mlynedd hwn. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae llawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, yn wynebu heriau pob dydd. Sef, y dewis rhwng prynu bwyd neu wisgoedd ysgol, talu am rent neu drydan. Dyma rhai o'r penderfyniadau bywyd go iawn y mae ymarferwyr yn gweld teuluoedd yn eu gwneud yn rheolaidd. Gall hyn hefyd effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc eu hunain a thrwy gydol yr arolwg, fe wnaethant dynnu sylw at eu pryder neu straen am hyn, yn aml yn methu canolbwyntio yn yr ysgol.”
Roedd yr arolwg yn ymdrin â llawer o faterion yn ymwneud â thlodi, gan gynnwys y codiad Credyd Cynhwysol dros dro. Gofynasom i ymarferwyr a oeddent yn credu bod yr £20 dros dro wedi bod o fudd i'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw, a nododd cyfran fawr eu bod wedi. Fe wnaethant ddarganfod bod y cynnydd wedi arwain at blant yn cael mwy o fwyd, wedi helpu i leihau straen ariannol ac wedi helpu i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn suddo ymhellach i ddyled. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu pan fyddai'r codiad wedi gorffen y byddent yn gweld mwy o ddefnydd o fanciau bwyd, mwy o deuluoedd mewn dyled, mwy o blant yn llwglyd a mwy o blant yn cael trafferth yn yr ysgol.
Dywedodd Karen McFarlane;
"Mae codiad dros dro Credyd Cynhwysol wedi bod yn achubiaeth i lawer o blant a'u teuluoedd. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos ei fod wedi gwneud gwahaniaeth rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd neu beidio, er nad yw bob amser yn diwallu anghenion costau tai, cyfleustodau a bwyd. Bydd cael gwared ar y codiad yn rhoi mwy o deuluoedd mewn argyfwng ac yn anochel bydd hyn yn cael effaith enfawr ar fywydau a chyfleoedd plant a phobl ifanc."
I gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiad a'i ganfyddiadau, cysylltwch â Karen.McFarlane@childreninwales.org.uk