Mae peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru ar waith, yn canolbwyntio ar ymadawyr gofal sy'n cael eu pen-blwydd yn 18 yn ystod cyfnod o 12 mis rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023. Bydd y peilot yn parhau am dair blynedd o leiaf, a bydd pob aelod yn cael taliad incwm sylfaenol am gyfnod o 24 mis, yn cychwyn yn y mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18.
Mae Padlet y peilot incwm sylfaenol wedi cael ei greu gan brosiect paratoi Plant yng Nghymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth â Lleisiau o Ofal Cymru i helpu pobl ifanc i baratoi i fod yn annibynnol. Mae'r Padlet yn darparu gwybodaeth i helpu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r peilot incwm sylfaenol.
Nod y Padlet yma yw helpu'r rhai sy'n cyfranogi yn y peilot incwm sylfaenol i reoli materion ariannol a chael hyd i ffordd trwy fywyd wedi i'r peilot ddod i ben. Mae'n darparu gwybodaeth a allai helpu wrth wneud cais am gredyd cynhwysol neu fudd-daliadau eraill y gallen nhw eu hawlio. Mae'r Padlet yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut i greu cyllideb, deall sgoriau credyd, a sut mae datblygu sgôr credyd da, cadw'n ddiogel ar-lein, deiet cytbwys, yn ogystal â chyfeiriadau at fannau hyfforddi a phrentisiaethau. Mae cysylltiadau hefyd â safleoedd llesiant a chyngor ar sut mae rheoli straen.