Ym mis Ionawr 2020, pasiodd y Senedd Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”) i helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.
Amcan cyffredinol y gyfraith hon yw amddiffyn hawliau plant drwy wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae hyn yn golygu bod gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
Er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall a chymhwyso’r gyfraith newydd, Mae Llywodraeth Cymru a Plant yng Nghymru wedi datblygu adnodd e-ddysgu i helpu ymarferwyr sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant ac yn eu cefnogi, i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r gyfraith mewn perthynas â gwahardd cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Mae'r adnodd e-ddysgu yn cynnwys:
- Deall y Ddeddfwriaeth - Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020;
- Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant;
- Deall pryderon rhieni a'r pwysau ar rieni;
- Esbonio ac ymateb i blant a phobl ifanc; a
- Lle i gael gafael ar ragor o wybodaeth, cymorth a hyfforddiant.
Mae canllawiau ac adnoddau hefyd wedi'u datblygu i gefnogi ymarferwyr i wreiddio ymwybyddiaeth a rhaeadru gwybodaeth berthnasol, gadarnhaol a grymusol i blant a phobl ifanc am y gyfraith.
Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru: canllawiau cyfathrebu | LLYW.CYMRU