Mae Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd bellach yn f…
NAWR AR AGOR
Fy enw i yw Suzanne Duval a chefais fy ngeni yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 1957. Fi yw'r trydydd o saith o blant. Cefais fy magu mewn teulu un rhiant gan fam Ddu yn Nhrelái. Yn gyffredinol, ystyrir yr ardal yma i fod yn un o'r ardaloedd llai dymunol Caerdydd, o ran troseddau a safonnau byw. Ond rydym ni, drigolion Trelái, yn awyddus i chwalu'r enw drwg hwn, gan ddyfynnu'r ffaith ei bod yn gymuned glos, fawr iawn.
Dylai cael y cefndir hwn diffinio fi a fy nheulu fel 'ymadawyr', 'diobeithwyr', gyda chyrhaeddiad addysgol isel, di-waith / anghyflogadwy, rhieni sy'n ifanc a dibriod, mewn trafferth gyda'r gyfraith ac ati, ond rydyn ni i gyd wedi torri'r stereoteip o'r hyn 'byddai eraill 'wedi ein labelu.
Rwy'n gweithio i Diverse Cymru, elusen cyd-gydraddoldeb sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy'n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Ffurfiwyd Diverse Cymru yn 2011 gan Dr Charles Willie ac mae'n gyfuniad o elusen Iechyd Meddwl Pobl Dduon Awetu, lle bûm yn Rheolwr am 10 mlynedd a Chlymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro, lle fuodd Charles yn Brif Swyddog Gweithredol.
Fi yw'r Rheolwr Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a Dementia (Polisi). Rwyf wedi gweithio yn y maes iechyd meddwl am yr 21 mlynedd diwethaf a gyda dementia am y 3 blynedd diwethaf. Mae fy niddordebau hefyd yn ymwneud âg anabledd dysgu yn y meysydd hynny.
Rwy'n gyfrifol am reoli prosiectau mawr, mynd i'r afael ag ymyrraeth gynnar, anghydraddoldeb a chefnogaeth i oedolion, pobl hŷn, plant a phobl ifanc ynglyn â iechyd meddwl / dementia / anableddau dysgu tu fewn cymunedau amrywiol Cymru.
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob un o'r 7 Bwrdd Iechyd, a'r prif elusennau / sefydliadau iechyd meddwl, dementia, hunanladdiad a hunan-niweidio ac anableddau dysgu yng Nghymru i gynrychioli barn a materion Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gyda materion iechyd meddwl a / neu ddementia / anableddau dysgu.
Rwyf wedi ysgrifennu'r Pecyn Cymorth Cymhwysedd Diwylliannol cyntaf ar gyfer Cymru a lansiwyd gan Vaughan Gething yn 2016 ac rwy'n gweithio gyda
Dr Charles Willie a Buddsoddwyr y Deyrnas Unedig mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cynnal Cynllun Ardystio ar sail tystiolaeth ar gyfer y Pecyn Cymorth o’r enw ‘Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.’
Pecyn Cymorth i ddatblygu'r gweithle yw hwn ar gyfer sefydliadau sy'n ceisio datblygu a gweithredu arfer da i sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu darparu i'n cymunedau amrywiol yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn deg.
Ariannwyd y Cynllun gan Lywodraeth Cymru a'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol Seiciatryddion yng Nghymru.
Lansiwyd hwn hefyd gan Vaughan Gething yn 2018 a hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y DU.
Rwyf hefyd wedi cael dau adroddiad arloesol, ar ddementia Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, wedi’u hysgrifennu a’u cyhoeddi yn 2019, ‘Let’s Talk about Dementia - End the Stigma and 2021,‘As I walk the last mile of the way’. Unwaith eto, y cyntaf o'u mathau yng Nghymru.
Dechreuais weithio ym maes iechyd meddwl Pobl Dduon yn gyntaf gan ei fod o ddiddordeb personol i mi, gan fy mod wedi cael achlysuron fy hun trwy gydol fy mywyd o drallod emosiynol a ddaeth yn sgil profiadau trawmatig a, hefyd, roedd afiechydon meddwl yn amlwg yn fy nheulu estynedig. Pan oeddwn wedi darllen am yr anghydraddoldebau a oedd yn bodoli ym maes iechyd meddwl Pobl Dduon, i gymharu gydag iechyd meddwl yn y mwyafrif o'r boblogaeth, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd, fe ysgogodd fy angerdd yn y maes hwn i weithredu a newid arfer a phrofiadau i ni i gyd. Wrth gwrs, mae'r angerdd hwn yn dal ynof a byddaf yn ymdrechu i wneud popeth o fewn fy ngallu.
Mae Erthygl 30 o'r CCUHP yn hynod o bwysig oherwydd mae'n dweud na ddylai plant golli eu hunaniaeth ddiwylliannol boed trwy iaith, arferion neu chrefydd eu teulu.
Eu hunaniaeth ddiwylliannol yw pwy ydyn nhw - eu ffordd o fod a beth sy'n eu siapio nhw fel unigolyn. Mae angen iddynt fod â balchder ynddyn nhw eu hunain a’u ffordd o fyw a dod yn fodelau rôl i eraill a allai feddwl yn debyg ac yn enwedig i’r rhai a allai fod yn ofnus dweud am eu crefydd neu eu ffordd o fyw rhag ofn beirniadaeth, gwrthod a gwahaniaethu.
Rwy'n hoffi'r ffaith ei bod yn egluro nad yw'r erthygl yn golygu:
Nid yw Erthygl 30 yn dweud y gellir defnyddio diwylliant neu grefydd plentyn neu berson ifanc i ddiystyru eu hawliau dynol. Yn benodol, mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag arferion sy'n debygol o achosi niwed iddynt, yn ddifater os ydyn nhw'n rhan o'u diwylliant neu beidio.
Mae hwn yn ffactor amddiffynnol enfawr mewn achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), priodas plentyndod ac ati.
Mae’r erthygl hon yn amhrisiadwy yn enwedig nawr gyda’r mudiad 'BLM' a allai fod hyd yn oed yn gryfach ac yn weithgar yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon (BHM), er yng Nghymru, ‘Black History Cymru 365’ ydyw. Yn Lloegr y thema eleni yw ‘Balch i fod’ a dyna beth y gellir ei gymhwyso i’r plant a’r bobl ifanc i gymryd sylw o hyn.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon wedi bod yn rhedeg ers 1987 yn y DU.
Mae llawer ohonom ni hyd yn oed (pobl Dduon) ddim yn gwybod ein hanes yn y wlad hon, yr hyn efallai rydym eisoes wedi gwybod yw hanes Pobl Dduon America a De Affrica am gaethwasiaeth, arwahanu / apartheid, y mudiad hawliau sifil yn America, Dr Martin Luther King a Nelson Mandela, ac ati.
Ers llofruddiaeth George Floyd, fe wnaeth y mudiad BLM a’r pandemig dynnu sylw at yr anghydraddoldebau / anghyfiawnderau yn y DU a gweddill y byd ynglŷn â phobl Dduon, cychwynnodd cynnwrf enfawr dros y byd ac roedd pobl yn sefyll dros eu hawliau.
Heb awgrymu nad ydym erioed wedi sefyll dros unrhyw un o'r pethau hyn o'r blaen, ond nawr mae'r pethau hynny wedi'u hamlygu dros y byd i gyd, mae'r lleisiau'n uwch ac yn gryfach ac mae pobl mewn pŵer wedi gorfod cymryd sylw ac ymdrechu i gychwyn eu dyheadau a gweithredoedd ynglyn â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI).
Mae hefyd wedi gwneud i bobl eisiau dysgu am eu hanesion, eu cefndiroedd - nid yn unig pobl Dduon ond pobl eraill sydd eisiau dysgu ac ychwanegu at eu haddysg. Mae mwy i'n hanes na chaethwasiaeth a hiliaeth. Mae mwy i ni na hanes, oes, mae gennym ni orffennol, ond hefyd y presennol a'r dyfodol.
Rydyn ni a'n teuluoedd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i'r wlad hon, i'r gwead ac i'r hanes o aberthu ein teuluoedd mewn rhyfeloedd i farw dros ryddid a democratiaeth eraill, rydyn ni wedi adeiladu'r llongau a'r awyrennau, rydym wedi gweithio yn y pyllau glo, yn y maes gofal cymdeithasol, y GIG, mewn celf ac ati. Rydym yn haeddu ein henwau a'n delweddau ar y beddargraffiadau a'r cerfluniau sy'n dathlu hanes a chyfraniadau a chyflawniadau rhagorol, ac yn ein llyfrau hanes.
Bellach, mae'r Cwricwlwm i Gymru'n cael ei addasu i gynnwys hanes Pobl Dduon a chyflawniadau modern, gan roi modelau rôl i'n plant dyheu tuag at, ymfalchio dros beth rydyn ni wedi'i gyflawni a rhoi gobaith i'n dyheadau a thargedau'r dyfodol.
NAWR AR AGOR