
Mynediad i Brifysgol
Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Mae gan lawer o sefydliadau sy’n gweithio gyda rhieni yn aml y parodrwydd a’r brwdfrydedd i gynnal ymgyngoriadau. Fodd bynnag, maen nhw’n wynebu heriau oherwydd diffyg hyfforddiant, sgiliau neu hyder ynghylch y sesiynau hyn.
Datblygwyd y Pecyn Offer Ymgynghori i bontio’r bwlch hwn, a rhoi i ymarferwyr yr wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i ymgysylltu’n llwyddiannus â rhieni a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar ystod o faterion.
Beth mae’r pecyn offer yn ei gynnig?
Mae’r pecyn offer yn darparu gwybodaeth i helpu sefydliadau i gynnal sesiynau ymgynghori a grwpiau ffocws effeithiol gyda rhieni. Fe’i lluniwyd i sicrhau bod ymgynghori â rhieni yn fwy hygyrch ac effeithiol trwy ddarparu:
Mae’r pecyn offer wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n gweithio gyda rhieni, gan gynnwys:
Digwyddiad Lansio
I gyflwyno’r pecyn offer a dangos sut mae modd ei ddefnyddio’n effeithiol, cynhaliodd Cyswllt Rhieni Cymru ddigwyddiad lansio ddydd Mawrth 4 Mawrth 2025. Rhoddodd y sesiwn drosolwg o’r pecyn offer, gan arddangos ei nodweddion a chynnig cipolwg ymarferol ar sut y gall wella ymdrechion i ymgynghori â rhieni.
Mae’r pecyn offer hwn yn gyfle gwych i weithwyr proffesiynol archwilio ffyrdd newydd o gryfhau ymgysylltiad rhieni a sicrhau bod lleisiau rhieni’n cyfrannu’n ystyrlon at unrhyw drafodaethau a datblygu polisi a gwasanaeth.
Gallwch lawrlwytho’r pecyn offer ymgynghori yma:
Gweler y digwyddiad lansio yma:
Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch