Dadl Cam 3 ar y Mesur Plant
Ar 21 Ionawr 2020, pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yng ngham 3 gan y Senedd.
Bob blwyddyn yng Nghymru mae dros 10,000 digwyddiad o blant a phobl ifanc coll yn cael eu hadrodd i’r heddlu. Golyga hynny un adroddiad am blentyn coll bob awr. Mae nifer o fudd-ddeiliaid ledled Cymru sy’n poeni am faint o blant sy’n parhau i fynd ar goll. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar ymchwil a gynhaliwyd yn 2017 gan The Children’s Society mewn partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru, a archwiliodd y pwnc hwn a gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU a Chymru yn ‘The Knowledge Gap’. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, sy’n adeiladu ar bapur 2017, gan NYAS Cymru gyda chefnogaeth gan The Children’s Society, ac mae’n darparu mewnwelediad gan grŵp llywio Methu’r Pwynt Cymru-gyfan, sy’n cynnwys elusennau, darparwyr trydydd sector, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a sefydliadau sector cyhoeddus. Mae’r grŵp llywio yn gweithio i archwilio a lleihau’r cysylltiadau rhwng plant â phrofiad o fod mewn gofal a phobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau difrifol, sy’n mynd ar goll am gyfnodau a chamfanteisio. Er bod llawer o asiantaethau statudol ac anstatudol ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol i atal plant rhag mynd ar goll, mae ein ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod dros 3,250 o blant wedi mynd ar goll o leiaf unwaith yn 2019/20. Eleni, aeth mwy o blant ar goll dro ar ôl tro ledled Cymru, o gymharu â’r pum mlynedd diwethaf. Mae’n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i’w hamddiffyn, ac i fynd i’r afael â’r problemau sy’n arwain at blant yn mynd ar goll. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi canolbwyntio ar yr hyn y mae asiantaethau yng Nghymru yn ei wneud i ddiogelu plant cyn ac ar ôl digwyddiadau o fynd ar goll, a’r hyn y gellir ei wneud i adeiladu ar bocedi o ‘arfer da’ presennol yng Nghymru mewn perthynas â phlant coll. Rydym wedi edrych ar ‘dueddiadau’ mewn data ar blant coll yng Nghymru, ac wedi cynnwys mewnwelediad proffesiynol ein grŵp llywio Methu’r Pwynt i nodi bylchau yn y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Hoffem ddiolch i gydweithwyr a sefydliadau ar draws ysector, sydd wedi rhannu eu straeon a’u harbenigedd yn ystod datblygiad yr adroddiad hwn, gan gynnwys yr holl gyfranwyr at grŵp llywio Methu’r Pwynt a chyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y grŵp hwnnw. Ein nod ar y cyd yw bod pob plentyn ledled Cymru yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn ei amgylchedd, ac yn cael eu diogelu rhag risg fel blaenoriaeth lwyr. Gobaith NYAS Cymru a The Children’s Society yw y bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at y gweithredu hwnnw dros newid.
Darllenwch yr adroddiad yma: Missing the Point Report Nov 2020 Cymraeg
Ar 21 Ionawr 2020, pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yng ngham 3 gan y Senedd.