I ddathlu Wythnos Magu Plant, mae Cylchgrawn yr Hydref allan yn swyddogol, ac yn cynnwys straeon llawn ysbrydoliaeth gan rai o’n haelodau dan y thema ‘Grymuso Rhieni a Gofalwyr: Pontio’r Bylchau mewn Cymorth i Deuluoedd.’
Ein nod yw pwysleisio pwysigrwydd cefnogi rhieni a gofalwyr i ddiwallu anghenion plant, yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf hollbwysig a thrwy gydol plentyndod. Mae ein haelodau yn gwneud gwaith anhygoel yn y gofod magu plant, ac rydym am arddangos y gorau o blith eu hymdrechion.
Yn y rhifyn hwn, mae ein Cyfarwyddwr Polisi a’n Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Sean O’Neil, yn agor y cylchgrawn trwy ymchwilio i thema gyffredinol yr erthyglau ac arwyddocâd Wythnos Magu Plant.
Bydd Fatiha Ali, Swyddog Datblygu Plant yng Nghymru, hefyd yn archwilio’r gwaith diweddar gan Cyswllt Rhieni Cymru a sut maen nhw’n helpu rhieni a gofalwyr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, gan sicrhau eu bod yn cael codi eu lleisiau i gael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau pwysig.
Mae yna hefyd erthygl dreiddgar a ysgrifennwyd gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, dan y teitl: “Sut y dylid cefnogi rhieni i ddiwallu anghenion plant trwy gydol eu plentyndod.”
Hoffem ddiolch i’r holl gyfranwyr a’n haelodau am weithio i sicrhau bod rhieni a gofalwyr ledled Cymru yn cael eu cefnogi a’u clywed.
Gallwch ei ddarllen yma: CIW Autumn Magazine 2024 (Welsh)