
Mae addysg yng Nghymru yn esblygu'n gyson ac mae'n bwysig ystyried sut y gellir ei gwella i ddiwallu anghenion babanod, plant a phobl ifanc yn well a pha arfer sy'n digwydd yng Nghymru i gefnogi eu dysgu.
Mae'n bleser gennym gynnwys erthygl gan yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, sy'n amlinellu llawer o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ynghyd ag erthyglau am Raglen PATHS® Barnardo's Cymru ar gyfer Ysgolion, ymroddiad diwyro NYAS Cymru i ymhelaethu ar leisiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor, sy'n gwneud cynnydd wrth fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys erthygl allweddol gan Plant yng Nghymru, o'r enw "Sut olwg sydd ar addysg o adeg geni?" Mae gan fabanod a phlant ifanc yr hawl i dyfu i fyny mewn amgylchedd hapus, iach a diogel lle gallant ffynnu a chael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn ein herthygl rydym yn archwilio sut mae'r blynyddoedd cynnar yn gyfnod cyflym o dwf a datblygiad, a sut mae babanod yn datblygu ac yn dysgu o'r eiliad y maent yn cael eu geni.
Yn ogystal, mae Urdd Gobaith Cymru yn esbonio'r cyfan am eu Prentisiaethau a sut mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ysbrydoli perfformwyr ledled Cymru.
Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch i'r holl gyfranwyr am gymryd yr amser i ysgrifennu eu herthyglau ac am eu hymroddiad yn y maes hwn.